Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru | Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales

CR 31

Ymateb gan: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Response from: Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

 

Datblygu’r Cwricwlwm Newydd

Croesawa UCAC y cyfle hwn i ymateb i ymgynghoriad Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ‘Ddatblygu’r Cwricwlwm Newydd.

Mae UCAC yn undeb sy’n cynrychioli athrawon, arweinwyr ysgol, tiwtoriaid a darlithwyr ym mhob sector addysg ledled Cymru.

 

1.   Cyflwyniad

1.1.   Mae UCAC yn gefnogol iawn o’r weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd, fel y’i hamlinellwyd yn wreiddiol yn adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’r datblygiadau ers hynny.

1.2.  Yn ogystal, cefnogwn y gwaith a’r cyfeiriad o fewn cyd-destun y rhaglen diwygio ehangach, fwy cyfannol, i’r system addysg sy’n cael ei chrynhoi yn nogfen ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’ (yn ogystal ag ‘Y Gymraeg mewn Addysg: cynllun gweithredu’). Er bod ceisio diwygio gymaint o elfennau o’r system addysg ar yr un pryd yn cynnig heriau penodol, teimlwn fod rhinwedd mewn anelu at system ble mae popeth yn ‘tynnu i’r un cyfeiriad’ a phob elfen yn cyd-gefnogi’r llall mewn modd ddylai arwain at fwy o lwyddiant o ran gwreiddio’r diwylliant a’r weledigaeth newydd.

2.  Hynt y gwaith o gynhyrchu fersiwn ddrafft o Gwricwlwm Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ei chyhoeddi a chael adborth gan y cyhoedd ym mis Ebrill 2019

2.1.  Deallwn fod pwysau sylweddol iawn ar bawb sydd ynghlwm wrth y broses hon ar hyn o bryd.

2.2. Rydym wedi gweld copi cynnar o un o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad ac rydym o’r farn ei fod yn bwynt cychwyn cadarnhaol ar gyfer trafodaeth ac adborth pellach.

2.3. Edrychwn ymlaen at gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut bydd y drafodaeth a’r ymgynghori pellach yn mynd rhagddo, i sicrhau ar y naill law fod pawb sydd am fynegi barn yn cael cyfle gwirioneddol i wneud hynny, ac ar y llaw arall bod ‘integriti’ y weledigaeth yn cael ei gynnal.

3.  Rôl yr Ysgolion Arloesi ac unrhyw gyfleoedd a heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt gyfrannu at y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm

3.1.  Mae’n hysbys bod y pwysau ar ysgolion arloesi wedi bod yn drwm. Mae’r gofynion o ran rhyddhau staff wedi bod yn sylweddol iawn, yn arbennig o safbwynt:

·      ariannol i’r ysgol (talu am gyflenwi)

·      ymarferol, o ran sicrhau bod disgyblion yn cael chwarae teg o safbwynt arbenigedd a chysondeb staffio

·      llwyth gwaith y staff dan sylw, sydd yn aml yn gorfod parhau i baratoi ar gyfer y gwersi pan fyddant yn absennol a pharhau i farcio’r gwaith

3.2. Ar y llaw arall, mae llawer o staff sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith wedi cael budd mawr o’r broses, ac wedi cael y cyfle i ddatblygu a defnyddio sgiliau na fyddent wedi gwneud fel arall.

4.  Sut y mae datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn cael eu datblygu i greu cynnwys y cwricwlwm ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad

4.1.  Roeddem yn bryderus wrth weld y Datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ flwyddyn yn ôl, gan eu bod yn ymddangos yn arwynebol, ac yn anghyson iawn rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad o safbwynt hyd, manylder, math o gynnwys ac ati.

4.2. Fodd bynnag, o fod wedi gweld copi cynnar o un Maes Dysgu a Phrofiad enghreifftiol (Iechyd a Lles) yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym yn dawelach ein meddwl ynghylch hyd a lled y gwaith sydd wedi’i gwblhau (hynny yw, nid yw’n arwynebol o gwbl).

4.3. Wrth reswm, ni allwn farnu eto ynghylch cysondeb rhwng y Meysydd Dysgu a Phrofiad, nac ynghylch y cyfanwaith.

4.4. Roedd anghysondeb o ran terminoleg yn y Gymraeg (‘Beth sy’n Bwysig’ / ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’) a mawr obeithiwn y bydd cysondeb o fewn ac ar draws y fframwaith ei hun pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Ebrill.

5.  Hynt y gwaith o ddiffinio canlyniadau cyflawniad wrth symud ymlaen drwy’r gwahanol gamau yn y cwricwlwm newydd

5.1.  Mi fydd y gwaith hwn yn hollbwysig i’r newid pwyslais a diwylliant ehangach a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd, ac nid yw wedi bod yn glir iawn i ni sut byddai’r ‘camau cynnydd’ a’r canlyniadau cyflawniad yn edrych.

5.2. O’r Maes Dysgu a Phrofiad enghreifftiol rydym wedi’i weld yn ddiweddar, mae’r camau cynnydd yn edrych yn gwbl wahanol i’r trefniadau asesu sydd yn eu lle ar hyn o bryd. Maent yn ymddangos yn llawer mwy datblygiadol a chyfannol/holistaidd eu naws – ac yn bendant yn gydnaws â Phedwar Diben y Cwricwlwm.

5.3. Tybiwn y byddant yn llai tebygol o gael eu troi mewn i ‘ddata’ amrwd ynghylch cyrhaeddiad disgyblion, ac yn llai tebygol o gael eu camddefnyddio o fewn systemau atebolrwydd.

5.4. Fel gyda phob agwedd arall o ddatblygiad y cwricwlwm a threfniadau asesu, mae llawer o gwestiynau’n parhau e.e. sut – a phryd - yn union y disgwylir asesu/mesur yn erbyn y camau cynnydd, sut bydd hyn yn gweithio ar draws oedrannau, a fydd gofyn adrodd am gynnydd (i bwy, a phryd)?

6.  Sut mae datblygiad Cwricwlwm newydd Cymru yn cyd-fynd â datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd i athrawon

6.1.  Mae hwn wedi bod yn un o’n cwestiynau/pryderon ers cychwyn y broses. Rydym ond wir yn dechrau clywed unrhyw fanylion ynghylch y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd, ac er bod y weledigaeth yn gadarnhaol ac yn apelgar mae cwestiynau pwysig yn parhau.

6.2. Mawr obeithiwn - ond nid ydym yn gwbl argyhoeddedig - fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r chwyldro y mae’r cwricwlwm newydd yn ei gynrychioli o ran addysgeg/pedagogeg. I sawl cenhedlaeth o athrawon, bydd y rhyddid newydd sy’n dod yn sgil y cwricwlwm newydd yn gwbl frawychus, ac yn teimlo fel petai’r holl sgaffaldiau sydd wedi eu hamgylchynu drwy gydol eu gyrfa yn cael eu datgymalu. Mae maint o dasg o ran dysgu proffesiynol yn aruthrol, ac ni ddylid tanamcangyfrifo maint y dasg wrth gynllunio ar gyfer y trawsnewid o’r system bresennol i’r system newydd.

6.3. Cyfeiria’r cwestiwn at ‘y cynnig proffesiynol cenedlaethol newydd i athrawon’ ond rhaid cofio pwysigrwydd sicrhau’r un fath o gynnig i staff cymorth dysgu sy’n gwbl greiddiol i lwyddiant yr holl fenter.

6.4. Mae £24 miliwn o gyllid eisoes wedi’i gyhoeddi at yr elfen hon o’r broses, er y nodwn fod £9 miliwn ohono i’w wario cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd angen sicrhau cyllid digonol, ac wedi’i gynllunio’n bwyllog a doeth er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd pob un ymarferydd ar lawr stafelloedd dosbarth, yn ogystal ag aelodau o’r gweithlu addysg ehangach yn yr ‘haenen ganol’.

6.5. Bydd angen bod yn gwbl realistig ynghylch yr amser fydd ei angen, a ble a phryd y rhoddir cyfle i’r gweithlu ymgymryd â’r gwaith dysgu proffesiynol. Mi fyddai disgwyl iddynt wneud hyn fel gofyniad ychwanegol ar ben eu llwyth gwaith affwysol presennol (a) yn annerbyniol a (b) yn gwbl aneffeithiol.

6.6.           Gwyddom fod pwysau ar yr amserlen ddeddfwriaethol yn sgil ymadawiad tebygol y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd, fodd bynnag mae UCAC o’r farn fod y ddadl dros gynyddu nifer y diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd yn orchfygol dan yr amgylchiadau. Byddai’r rheoliadau sy’n angenrheidiol i sicrhau hynny yn syml dros ben, ac ni fyddem yn rhagweld y byddant yn ddadleuol.

7.  Rhoi gwybod i ysgolion ac athrawon am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r cwricwlwm a chynnwys pob ysgol yn y gwaith hwn (nid dim ond yr Ysgolion Arloesi)

7.1.  Er bod y gwaith o rannu gwybodaeth a chyfathrebu wedi gwella yn sgil pryderon dybryd yn gynharach yn y broses, mae bylchau mawr iawn yn y lefelau o wybodaeth rhwng ysgolion a rhwng ymarferwyr unigol.

7.2. Bydd angen parhau i gadw ffocws ar y gwaith hwn a sicrhau bod cyfle gan bob ysgol ac ymarferydd i weld y fframwaith newydd pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Ebrill, a’u bod yn cael cyfle gwirioneddol i fynd i’r afael ag e, ac ymateb mewn modd ystyrlon iddo.

8.  Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rôl y Grŵp Cynghori Annibynnol a Bwrdd y Cadeiryddion, a chyfraniad y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg

8.1.  Rydym wedi gwerthfawrogi bod yn rhan o’r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ac wedi cael budd o’r Grŵp o ran cyfnewid gwybodaeth, ond hefyd y cyfle i holi cwestiynau ac ysgogi trafodaethau. Teimlwn fod y swyddogion, ar y cyfan, wedi bod yn agored i drafodaeth ac yn ymatebol i’r pwyntiau sydd wedi’u codi.

9.  Pa mor barod yw ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ac i ba raddau y mae cysyniadau adroddiad yr Athro Donaldson ar ei adolygiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn cael eu rhoi ar brawf a’u rhoi ar waith eisoes

9.1.  Fel rydym wedi nodi uchod dan bwynt 6 (dysgu proffesiynol) mae ysgolion a’r gweithlu (athrawon a chymorthyddion fel ei gilydd) yn bell iawn o fod yn barod i gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Mae llawer o anwybodaeth yn parhau, a gwahaniaethau sylweddol iawn yn y lefelau o wybodaeth. Unwaith y bydd y fframwaith drafft wedi’i gyhoeddi, bydd angen mynd ati’n fwriadus iawn i ledaenu’r wybodaeth ac i ymgysylltu mewn modd ystyrlon gyda’r gweithlu a rhanddeiliaid ehangach.

9.2. Ar yr un pryd, mae perygl bod rhai ysgolion yn ceisio ymgymryd â’r newidiadau’n gynamserol ac mewn modd all fod yn amhriodol neu’n wrthgynhyrchiol. Un ffenomenon sydd wedi gafael ar hyd a lled Cymru, wrth ail-strwythuro o fewn ysgolion (fel arfer yn sgil diffyg cyllid), yw creu ‘cyfadrannau’ (‘faculties’) ar sail y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn hytrach nag Adrannau fesul pwnc. Mae hyn yn wir yn ogystal am benodiadau unigol, er enghraifft, penodi athro ‘dyniaethau’ yn hytrach nag athro ag arbenigedd mewn pwnc penodol.

9.3. Mae angen bod yn wyliadwrus iawn ynghylch y math hwn o ddatblygiad er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhagdybio (o bosib yn anghywir) yr hyn sydd yn yr arfaeth, ac nad ydynt yn creu problemau strwythurol o’r cychwyn. Mae’r hinsawdd economaidd drychinebus mae ein hysgolion yn wynebu yn golygu bod penderfyniadau o’r fath yn gallu ymddangos yn atyniadol, heb ystyried eu gwir briodoldeb.

9.4. Mae llawer o agweddau ehangach o’n system addysg yn y broses o gael eu diwygio ochr yn ochr â’r cwricwlwm; y pwysicaf o’r rhain o ran sicrhau bod ‘shifft’ go iawn i gyfeiriad y cysyniadau, y weledigaeth a’r diwylliant newydd fydd newidiadau pellgyrhaeddol i’r system atebolrwydd.

9.5. O’r diwedd, fe ddaeth sylweddoliad bod y system atebolrwydd fel y mae ar hyn o bryd, ac fel mae wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf, yn wrth-gynhyrchiol o safbwynt datblygiad ‘go iawn’ pob dysgwr yn y system, o safbwynt barn broffesiynol athrawon, ac o ran annog ysgolion i gydweithio a chefnogi'i gilydd. Mae wedi arwain at system sydd yn ei hanfod yn gyrru ymddygiad amhriodol sydd wedi cael effeithiau andwyol o safbwynt lles disgyblion, athrawon ac arweinwyr fel ei gilydd, heb arwain at welliannau ‘dwfn’ a deallus yn ein system.

9.6.           Wrth reswm, mae angen systemau atebolrwydd, ond mae angen i ni fod yn gwbl glir ynghylch eu pwrpas, sut maen nhw’n gweithio a beth yn union fydd eu heffaith. Bydd y system atebolrwydd ar ei newydd wedd gyda’r elfennau mwyaf dylanwadol o ran gyrru’r math o ymddygiad a diwylliant a amlinellir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’.

10.Sut y mae’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm ar y trywydd iawn a chanlyniad y cyfarfod a gynhaliodd ar 13 ac 14 Tachwedd 2018 i adolygu cynnydd

10.1.          Nid oes gennym brofiad uniongyrchol mewn perthynas â’r cwestiwn hwn, ond cymrwn y cyfle i fynegi ein pryder yn benodol ynghylch y cwricwlwm ‘Hanes’ ac i ba raddau y bydd y pwyslais ar hanes Cymru, yn unol ag argymhellion yr Athro Elin Jones yn ei adroddiad ‘Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru’ nôl yn 2013.

10.2.          Yn wir, rydym yn awyddus iawn i gael sicrhad o ogwydd a phwyslais llawer fwy Cymreig yn y cwricwlwm newydd drwyddi draw.

10.3.          Pryderwn yn ogystal am y ‘continwwm’ ar gyfer y Gymraeg (sy’n hanfodol ar gyfer creu un pwnc integredig yn hytrach na Chymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith); nid ydym wedi clywed llawer ynghylch cynnydd yn y maes hollbwysig hwn, na sut y bydd yn gweithredu’n ymarferol.

11.  Hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau asesu newydd

11.1. Mae’r trefniadau asesu newydd yn mynd law yn llaw â’r camau cynnydd. Er ein bod ni wedi gweld fersiwn drafft o gamau cynnydd mewn un Maes Dysgu a Phrofiad, nid oes gennym fawr o syniad hyd yma o sut olwg fydd ar y trefniadau asesu newydd. Mawr obeithiwn y daw hyn yn gliriach adeg cyhoeddi’r fframwaith ym mis Ebrill, os nad yn gynt.

12. Y camau a gymerir i sicrhau bod Cwricwlwm Cymru newydd yn ategu blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Cymraeg 2050

12.1.           Ar y cyfan, ymagwedd a strategaeth integredig iawn a welir mewn perthynas â’r diwygiadau i’r system addysg – mae hynny’n beth gadarnhaol (a phur anarferol) i’w weld. Fodd bynnag mae rhai eithriadau y mae’n rhaid i ni eu rhestru.

12.2.          Nid yw’r dimensiwn cynllunio’r gweithlu addysg - yn enwedig mewn perthynas â’r angen i greu gweithlu llawer fwy dwyieithog - fel petai’n symud ymlaen yn ddigonol o bell ffordd. Mae gennym bryderon yn arbennig ynghylch y meini prawf ar gyfer y cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon newydd sy’n dechrau ym mis Medi 2019, a yw’r gofynion yn ddigon cryf ac yn creu ddigon o gysondeb ledled Cymru. Heb gynnydd sylweddol a chyflym yn niferoedd yr athrawon sy’n gallu dysgu’r Gymraeg fel pwnc a/neu’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mae’n annhebygol y byddwn yn gweld newidiadau o’r raddfa sydd ei angen i gyrraedd nodau Cymraeg 2050.

12.3.          Nid ydym o’r farn fod y sector a’r gweithlu addysg bellach yn cael eu cynnwys yn ddigonol yn y trafodaethau.

12.4.          Bydd angen bod yn ymwybodol bod y diwygiadau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd i fod yn digwydd mewn ysgolion ar yr un pryd â’r diwygiadau i’r cwricwlwm. Mi fydd hwn yn gyfnod trwm ac anodd ei lywio i bawb o fewn y gweithlu addysg, yn arbennig i arweinwyr ysgol ac i Gydlynwyr ADY. Bydd angen sicrhau bod digon o gefnogaeth a chyngor, rhwydd eu cyrchu, ar gael.

12.5.          Bydd angen bod yn wyliadwrus bod unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â sefydlu Comisiwn Trydyddol yn cymryd datblygiadau’r cwricwlwm a’r diwygiadau ehangach i ystyriaeth. Rydym o’r farn nad yw’r cysylltiadau rhwng y gwaith polisi yn y maes ôl-orfodol (PCET) yn cysylltu’n ddigon agos â’r sector ysgolion.

13. Unrhyw fater arall y mae rhanddeiliaid yn dymuno tynnu sylw'r Pwyllgor ato.

13.1.           Ar hyn o bryd, mae cryn ansicrwydd ynghylch dyfodol cymwysterau yn sgil y diwygiadau i’r cwricwlwm. Bydd y garfan gyntaf o ddisgyblion sydd wedi dilyn y cwricwlwm newydd yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ym mis Medi 2025. Gan gyfrif am yn ôl, a gan ystyried yr holl gamau yn y broses o ddiwygio a datblygu cymwysterau (gan gynnwys paratoi adnoddau yn y ddwy iaith), nid yw’r amserlen ar gyfer diwygio yn un hael. Mae angen atebion buan i’r cwestiynau mawr sydd wedi bod yn cael eu gofyn ers sawl blwyddyn bellach.